Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Chwefror 2016
Amser: 09.05 -
12.53
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3553
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Jocelyn Davies AC Mike Hedges AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru Chris Cain, Northpoint Aviation Yr Athro Stuart Cole, Prifysgol De Cymru Andrew Miller, Glasgow Prestwick Airport John Nicholls, Transport Scotland |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru) |
Trawsgrifiad
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies ac Aled Roberts. Nid oedd neb yn dirprwyo ar eu rhan.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a pherchnogi maes awyr Caerdydd.
3.2 Cytunodd James Price i anfon y wybodaeth ganlynol at y Pwyllgor:
· Rhestr o'r Cwmnïau Angori yng Nghymru ynghyd â'r meini prawf er mwyn bod yn Gwmni Angor;
· Nodyn yn cynnwys ffigurau teithwyr a nifer yr hediadau dros y 25 mlynedd diwethaf;
· Cynllun a rhestr o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gaffael;
· Eglurhad o'r brys ynghylch pam bod rhaid cwblhau'r pryniant mewn amser byr a pham y defnyddiwyd gweithdrefn S128 yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006;
· Manylion llawn o'r gwahanol brisiadau a wnaed cyn y caffaeliad;
· Cadarnhad ynghylch a gynhaliwyd y gwerth tir gwreiddiol ar y safle fel maes awyr neu Werth Tir Gweddilliol safle'r maes awyr cyn adeg y pryniant;
· A yw'r cyfrifiadau ar y Gwerth Tir Gweddilliol ar gael; a
Nodyn ar ba ddull prisio a ddefnyddiwyd i roi gwerth ar yr asedau yng nghyfrifon blynyddol Holdco.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Chris Cain, Cyfarwyddwr a Phennaeth Ymchwil, Northpoint Aviation a'r Athro Stuart Cole CBE, Athro Emeritws Economeg a Pholisi Trafnidiaeth, Prifysgol De Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a pherchnogi maes awyr Caerdydd.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Nicholls, Cyfarwyddwr, Teithiau Awyrennau a Llongau, Camlesi a Chludo Nwyddau Transport Scotland ac Andrew Miller, Cadeirydd Maes Awyr Glasgow Prestwick fel rhan o'r ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a pherchnogi maes awyr Caerdydd.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.